Mae cerdded ym myd natur wedi gwella fy lles ac iechyd meddwl, mae wedi fy newid i

Fel rhan o Wythnos Iechyd Dynion, mae Rheolwr Prosiect Siediau Dynion, Robert, yn siarad am sut mae treulio amser yn yr awyr iach wedi helpu ei les.

Am ran fawr o 2020-21, fel gymaint o bobl, roeddwn i mewn cyfnod clo, yn gweithio o gartref, ac yn  defnyddio fy ystafell fwyta fel gweithle. Parhaodd hyn am fisoedd, prin yn mynd i unman ac, ambell ddiwrnod, heb adael y tŷ. Roeddwn i’n meddwl fy mod i yn ymdopi’n iawn – doeddwn i ddim. Dechreuais sylweddoli a phendroni ar y ffaith fy mod i heb weld unrhyw un drwy’r dydd a heb adael 4 wal fy nhŷ. Daeth y ffiniau rhwng gwaith a chartref yn aneglur, ynghyd â phethau eraill, newidiodd fy hwyl a dechreuais deimlo’n isel. Doeddwn i ddim yn gallu cael gwared â’r teimladau hyn.

Awgrymodd ffrind all cerdded ym myd natur fod yn dda imi. A dyna pryd dechreuais gerdded yn yr awyr iach, yn gyntaf o gwmpas y pentref ac wedyn ym myd natur. Rydw i’n ffodus iawn fy mod i’n byw yn agos i’r Afon Daf yn ogystal â choedlan, cefn gwlad a bryniau hardd. Dechreuais gerdded am 15 munud bob dydd gan ymestyn yr amser yn raddol. Yn aml es i am dro byr amser cinio ac am dro hwy yn ddiweddarach yn y dydd.

Roedd bod yn yr awyr iach, i ffwrdd o dechnoleg a straen arferol bywyd yn wych am fy lles. Po fwyaf o amser a dreuliais ym myd natur ac yn cerdded yn yr awyr iach, y mwyaf roeddwn i’n gallu ymlacio a theimlo’n well.

Mis Gorffennaf diwethaf, dywedodd ffrind wrthyf fi am degeirianau prin a oedd yn tyfu yn ein coedwig leol. Daeth hyn yn gôl ac yn her imi, i fynd allan a’u ffeindio nhw. Cymerodd dipyn o amser i weld yr un cyntaf, ond ar ôl hynny, dechreuodd y blodau ymddangos bob tro es i am dro’r mis yna.

Mae cerdded ym myd natur wir wedi gwella fy lles ac iechyd meddwl, mae wedi fy newid i.

Rydw i’n credu bod mynd am dro yn yr awyr iach yn gallu gwella yn anferthol y ffordd rydych chi’n teimlo yn feddyliol, yn ogystal ag yna gorfforol, felly beth am roi cynnig arni?